Mae’n bleser gennym gyflwyno Berwyn Jones fel Cyfarwyddwr Cerdd newydd Codi’r To.
Gyda chefndir mewn addysg a cerddoriaeth a blynyddoedd lawer yn gweithio gyda Codi'r To fel Tiwtor, mae Berwyn yn dod â chyfoeth o brofiad ac angerdd i'n prosiect. Mae ei gariad dwfn at gerddoriaeth a’i ymrwymiad at feithrin talent ifanc yn cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth Codi’r To o feithrin creadigrwydd a chymuned trwy rym cerddoriaeth.
Mae Berwyn wedi treulio blynyddoedd yn mireinio ei grefft, fel perfformiwr gyda nifer o fandiau gan gynnwys Derwyddon Dr Gonzo a Band Pres Llareggub ac fel tiwtor pres, mae ei waith wedi ysbrydoli cerddorion ifanc i ddilyn eu hangerdd. Heb os, bydd ei brofiad yn dyrchafu ein rhaglenni i lefelau newydd, ac rydym yn gyffrous i weld y syniadau bydd yn eu cyflwyno.
O dan arweiniad Berwyn, edrychwn ymlaen at ehangu ein cyrhaeddiad a’n heffaith, gan barhau i ddarparu addysg gerddorol o safon uchel a chyfleoedd i’n cymuned. Rydym yn hyderus y bydd ei weledigaeth a’i arbenigedd yn gyrru Codi’r To ymlaen, ac ni allwn aros i chi brofi’r egni anhygoel sydd ganddo.
Ymunwch â ni gan ddymuno'r gorau i Berwyn yn ei swydd newydd! Rydym yn gyffrous am y dyfodol a’r hyn y byddwn yn ei gyflawni gyda’n gilydd o dan ei gyfarwyddyd.