Mae Sistema Cymru - Codi'r To yn brosiect adfywio cymunedol sydd yn dod a’r ddull El Sistema fyd enwog i ogledd Cymru. Mae’r cynllun yn gweithio mewn dwy ysgol gynradd, Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon ac Ysgol Glancegin ym Mangor.
Mae tiwtoriaid cerdd proffesiynnol yn gweithio yn yr ysgolion yn arwain gweithgareddau cerddorol. Maent yn gwneud cysylltiadau â theuluoedd a’r gymdogaeth o gwmpas yr ysgolion gan ddarparu cerddoriaeth fyw yn y gymuned a chyfleoedd cyson i’r disgyblion i berfformio yn gyhoeddus.
Bydd y plant yn cymryd rhan mewn sesiynau Codi’r To bob wythnos. Gan gychwyn ym Mlwyddyn Meithrin, bydd yna gyfle i ganu, dychmygu a symud gyda’r gerddoriaeth. Ym Mlwyddyn 3, bydd cyfle i’ch plentyn ddysgu offeryn cerdd a bod yn rhan o ensemble offerynnol ynghŷd â band Samba Codi’r To.
Mae cyfle i gyn-ddisgyblion Ysgol Maesincla gymryd rhan yng Nghlwb Samba Codi’r To Ysgol Syr Hugh Owen ac mae cyn-ddisgyblion Ysgol Glancegin yn rhan o fand ar ôl ysgol Codi’r To.
Nod Codi’r To yw trawsnewid bywydau drwy gerddoriaeth. Mae'n brosiect datblygiad cymunedol sy’n anelu at wella bywydau unigolion a chymunedau, a hynny drwy weithio gydag ysgolion cynradd i ddarparu profiadau cerddorol a thiwtora offerynnol.
Mae tiwtoriaid Codi’r To yn annog y disgyblion i gredu yn eu galluoedd ac i adnabod potensial eu hunain, codi hunan-hyder, dyheadau, balchder ac hapusrwydd.
Mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau newydd, hunan-ddisgyblaeth a’r gallu i ddyfalbarhau.
Maent yn meithrin sgiliau cymdeithasol, cydweithredu, gweithio mewn grŵp, parch at eraill, cyfathrebu a gwneud ffrindiau newydd.
Mae Codi’r To yn cefnogi’r ysgol i godi lefelau cyrhaeddiad addysgiadol. Gwella canolbwyntio, gwrando, dilyn cyfarwyddyd, datblygiad iaith, rhifedd, presenoldeb a chanlyniadau addysgol.
Daw’r ysbrydoliaeth o’r cynllun El Sistema yn Venezuela ac o brosiectau tebyg megis In Harmony yn West Everton, Lerpwl a phrosiect Big Noise yn yr Alban.
Datblygwyd y prosiect gan Grŵp Llywio oedd yn cynrychioli y celfyddydau, y gymuned ac addysg a oedd yn awyddus i edrych ar fethodoleg El Sistema a’i drawblannu i gyd destun Cymreig. Daeth cynrychiolwyr y Grŵp Llywio gwreiddiol o Gwmni Cofis Bach, Canolfan Gerdd William Mathias a Gwasanaeth Ysgolion William Mathias.
Darperir y prosiect drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, un o lond llaw o brosiectau Sistema sydd yn cael eu cynnal drwy iaith leiafrifol.
Mae Sistema Cymru – Codi’r To wedi’i chofnodi yn y Gofrestr Elusennau ers mis Tachwedd 2014.
Mae Codi’r To yn cael ei werthuso gan Brifysgol Bangor. Mae hyn yn fodd o fesur effaith a llwyddiannau’r cynllun ar y cyfranogwyr yn yr ysgolion a’r gymuned.
Cefnogir y cynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cymunedau’n Gyntaf, Cyngor Gwynedd, Plant Mewn Angen, Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, Canolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor, Steve Morgan Foundation, Paul Hamlyn Foundation, People’s Postcode Lottery, Garfield Weston, Cronfa’r Loteri Fawr, Ysgol Maesincla ac Ysgol Glancegin.