Prosiectau Cymunedol Codi’r To
Mae Codi'r To wedi ymrwymo i'n menter gerddoriaeth gymunedol sydd wedi bod yn tyfu yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, trwy ei brosiectau diddorol a chyffrous. Wedi’i seilio ar egwyddorion El Sistema, ein nod yw dod â phŵer trawsnewidiol cerddoriaeth i galon ein cymuned, gan gyfoethogi bywydau a meithrin cydlyniant cymdeithasol. Mae ein prosiect cymunedol diweddaraf ‘Cymunedau Cerdd’ wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Clwb Codi’r To
Clwb Codi’r To yw’r prosiect sydd wedi ei gynllunio i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cerddoriaeth trwy sesiynau rheolaidd ar ôl ysgol. Mae'r clwb yn darparu cyfle i blant o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd i ddysgu, chwarae a pherfformio cerddoriaeth. Mae’r prosiect hwn wedi datblygu galluoedd cerddorol y plant sy’n cymryd rhan yn sylweddol yn ogystal â gwella eu hyder a’u sgiliau gwaith tîm. Mae'r clwb wedi gweld cyfradd cadw o 77% ymhlith ein cyfranogwyr, gan ddangos gofyn mawr i gael dysgu cerddoriaeth. Rydym yn cynnal clybiau cerdd wythnosol yng Nghaernarfon a Bangor, gan gynnwys gweithdai gyda cherddorion proffesiynol, a pherfformiadau cymunedol.
Side by Side: Gothenburg
Fel rhan o’n gobeithion i ehangu ein gorwelion, rydym wedi partneru â phrosiect cerdd rhyngwladol Side by Side yn Gothenburg, Sweden gyda chyllid gan Taith. Caniataodd y profiad hwn i gerddorion ifanc o Wynedd gydweithio a pherfformio ochr yn ochr â cherddorion o wledydd eraill. Mae’r prosiect wedi darparu profiadau sydd wedi newid bywydau aelodau Clwb Codi’r To, gan gynnig cyfle bythgofiadwy iddynt gan hefyd wella eu datblygiad cerddorol.
Clybiau Gwyliau Ysgol
Mae Clybiau Gwyliau Ysgol Codi’r To yn cynnig gofod creadigol i blant yn ystod gwyliau ysgol. Mae'r clybiau hyn yn cynnig gweithgareddau cerddorol wedi'u cynllunio i gadw meddyliau ifanc yn brysur tra’n cael egwyl i ffwrdd o’r ysgol. Mae’r clybiau hyn yn helpu i bontio’r bwlch yn ystod gwyliau’r ysgol, gan ddarparu cymorth ac ymgysylltiad cyson i blant yn y gymuned.
Perfformiadau Cymunedol
Mae Codi’r To yn caru bod allan yn ein cymuned yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys cartrefi preswyl, canolfannau cymunedol, ac hyd yn oed yng nghartrefi aelodau Clwb Codi’r To! Os hoffwch chi Codi’r To i berfformio yn rhywle yn y gymuned, cysylltwch â ni.
Ymrwymiad Cymunedol
Mae Codi'r To wedi ymrwymo i gynnwys y gymuned ehangach yn ein gweithgareddau. Mae ein gobeithion yn mynd y tu hwnt i ddarparu addysg gerddorol yn unig; anelwn at greu ymdeimlad o berthyn a balchder o fewn ein cymuned. Rydym yn cynnwys teuluoedd yn ein prosiectau, gan gydnabod pwysigrwydd amgylchedd cefnogol ar daith gerddorol plentyn. Mae ein gwaith gyda chanolfannau cymunedol lleol, a sefydliadau eraill wedi bod yn bwysig iawn o ran cyrraedd cynulleidfa ehangach a sicrhau bod ein prosiectau yn cael effaith barhaol. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'n prosiectau. Ydy’ch chi gyda cariad at gerddoriaeth neu’n mwynhau gwaith cymunedol? Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych!
Cymerwch Ran
Mae Codi’r To yn elusen sy’n brysur ehangu, ac rydym bob amser yn chwilio am aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr newydd. Os ydych chi'n rhiant, athro, cerddor, neu’n rhywun sy'n caru'r hyn rydym yn ei wneud, hoffwn eich gwahodd chi i gymryd rhan. Cysylltwch os hoffech chi gymryd rhan gyda Codi’r To!
Cysylltwch gyda ni
Am ragor o wybodaeth am ein prosiectau neu i gymryd rhan, cysylltwch â sion@codirto.com.