Iolo
Yn wreiddiol o Fangor, dechreuodd Iolo chwarae’r drymiau drwy cael gwersi yn yr ysgol uwchradd. Yn ystod yr amser yma ymunodd, a pherfformiodd hefo nifer o fandiau pres, bandiau symffonig, a cherddorfeudd lleol yn bennaf drwy Wasanaeth Ysgolion William Mathias. Drwy chwarae hefo’r grwpiau yma, a Band Pres Biwmaris, mae Iolo wedi perfformio ar rai o lwyfannau enwocaf Prydain, yn cynnwys yr Royal Albert Hall, a Birmingham Symphony Hall.
Ar ol gadael yr ysgol, fe aeth i astudio yn yr Academy Of Contemporary Music (ACM) yn Guildford, a graddiodd o’r cwrs Professional Music Performance yn 2011. Tra yno fe ddechreuodd fand “progressive metal” hefo cerddorion eraill o’r ACM, gan berfformio yn ardal Llundain a De Lloegr.
Symudodd yn ol i Fangor yn 2013 a dechreuodd weithio i Wasanaeth Ysgolion William Mathias. Yn yr Haf honno fe ddechreuodd ddysgu i chwarae cerddoriaeth Samba o dan Colin Daimond, ac ymunodd a’i fand Bloco Swn. Ers ymuno mae Iolo wedi bod yn perfformio yn rheolaidd hefo’r band Samba mewn nifer o wahanol ddigwyddiadau.
Yn 2014 ymunodd Iolo hefo Codi’r To fel tiwtor offerynnau taro. Mae’n mwynhau yn fawr iawn rhannu ei nifer o wahanol brofiadau a ddylanwadau cerddorol i ddysgu’r plant. Yn ogystal a helpu plant yr ysgolion, a phobl y cymunedau o’u cwmpas ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol, a sgiliau bywyd drwy gerddoriaeth.