Oes gennych chi gwestiwn am Codi'r To?
Dyma rai cwestiynau a ofynnir i ni yn aml! Os nad oes gennym yr ateb i chi yma - cysylltwch â ni!
Mae Sistema Cymru - Codi'r To yn brosiect adfywio cymunedol sydd yn dod a’r ddull El Sistema fyd enwog i ogledd Cymru. Mae’r cynllun yn gweithio mewn dwy ysgol gynradd, Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon ac Ysgol Glancegin ym Mangor.
Mae El Sistema yn ddull addysgu a sefydlwyd ym 1975 gan José Antonio Abreu yn Venezuela. Ei nod yw defnyddio cerddoriaeth fel arf ar gyfer newid cymdeithasol drwy ddarparu addysg cerddoriaeth am ddim i blant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau cerdd yn yr ysgolion, clybiau cerdd ar ôl ysgol, digwyddiadau cymunedol, a phrosiectau arbennig fel ein Cynllun Cerdd Cenedlaethol sy'n gweithredu ar draws Wynedd. Rydym hefyd yn cynnig gweithdai Samba - os hoffech chi weithgaredd Samba yn eich digwyddiad chi, cysylltwch gyda ni.
Mae ein rhaglenni yn bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc yng nghymunedau Caernarfon a Bangor, ond rydym yn croesawu cyfranogiad gan unrhyw o'r gymuned sydd â diddordeb.
Cynhelir ein gweithgareddau mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys ysgolion fel Ysgol Maesincla ac Ysgol Glancegin, canolfannau cymunedol, a mannau cyhoeddus eraill yng Ngwynedd. Mae swyddfa Codi'r To yng Nghanolfan Gymunedol Noddfa, Caernarfon.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, anfonwch e-bost at sion@codirto.com i fynegi eich diddordeb ac i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael.
Mae gennym amryw o rolau ar gyfer ein gwirfoddolwyr, gallwch helpu gyda digwyddiadau cymunedol, cynorthwyo gyda sesiynau a chlybiau yn yr ysgolion, neu hyd yn oed gefnogi'r gwaith gweinyddol yn y swyddfa.
Nid oes angen unrhyw sgiliau penodol, dim ond brwdfrydedd am gerddoriaeth ac ymgysylltu cymunedol! Gallwn darparu hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer rolau penodol.
Mae bob plentyn yn Ysgol Maeincla ac Ysgol Glancegin yn derbyn sesiynau gan Codi'r To. Os nad yw eich plentyn yn mynychu Ysgol Maesincla neu Ysgol Glancegin, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am y gweithgareddau sydd ar gael.
Mae'r rhan fwyaf o'n rhaglenni yn rhad ac am ddim, diolch i gyllid gan grantiau a rhoddion. Gall rhai gweithgareddau arbenigol ofyn am ffi fach, ond rydym yn ymdrechu i gadw'r costau mor isel â phosibl.
Dylai cyfranogwyr ddod â'u brwdfrydedd ac angerdd i ddysgu! Ar gyfer unrhyw weithgareddau penodol, rydym yn darparu'r offerynnau a'r deunyddiau angenrheidiol.
Ydy, rydym yn cynnal cyngherddau, perfformiadau a digwyddiadau cymunedol yn rheolaidd ble mae ein cyfranogwyr yn perfformio fel bo'r cyhoedd yn cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw gan ddisgyblion Codi'r To.
Gallwch ddilyn Codi'r To ar ein cyfryngau cymdeithasol, gallwch edrych ar ein gwefan, neu ffonio/ebostio'r swyddfa i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
Rydym bob tro'n agored i gyfleoedd newydd! Cysylltwch â sion@codirto.com i drafod sut y gallwn gydweithio.
Gallwch ein cefnogi trwy wirfoddoli, mynychu ein digwyddiadau, neu roi rhodd. Mae pob cyfraniad yn ein helpu i barhau i ddod â cherddoriaeth i'r gymuned.
Bydd unrhyw rodd yn mynd yn syth tuag at ariannu ein rhaglenni, prynu offerynnau, ac ehangu ein cyrhaeddiad o fewn y gymuned.